Skip to main content
Iwan Rees  BA, MPhil, PhD, FHEA

Dr Iwan Rees

BA, MPhil, PhD, FHEA

Senior lecturer
Teaching and research

School of Welsh

cymraeg
Welsh speaking
Users
Available for postgraduate supervision

Overview

Mae fy niddordebau ymchwil yn cwmpasu sawl maes ieithyddol, gan gynnwys:

  • Tafodieitheg ddaearyddol a chymdeithasol;
  • Amrywio seinegol a ffonolegol;
  • Pedagogeg iaith (yn enwedig yng Nghymru ac ym Mhatagonia);
  • Gramadeg y Gymraeg (gan gynnwys amrywiadau lleol);
  • Datblygiad hanesyddol y Gymraeg a’i hysgolheictod.

Ymunais ag Ysgol y Gymraeg yn 2012 fel Cydymaith Ymchwil ar brosiect a ganolbwyntiai ar anawsterau ynganu dysgwyr ym maes Cymraeg i Oedolion (CiO). Rwyf bellach yn Ddarlithydd yn yr Ysgol ers 2014 ac yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, derbyniais nawdd oddi wrth yr AHRC a’m galluogodd i gwblhau traethawd doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar amrywio ffonolegol mewn dwy dafodiaith benodol yng nghanolbarth Cymru.

Mae ffenomen cyffyrddiad tafodieithol, sef canlyniadau ieithyddol cymysgu tafodieithol, wastad wedi bod o ddiddordeb neilltuol imi. Yn ogystal â chyhoeddi erthyglau ac adnoddau ar natur y trawsnewid ieithyddol graddol a geir yng nghanolbarth Cymru rhwng prif amrywiadau’r Gymraeg, h.y. rhwng Cymraeg y gogledd a Chymraeg y de, rwyf hefyd yn gweithio ar brosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau tafodieithol (hanesyddol a chyfredol) yng Nghymraeg y Wladfa ym Mhatagonia. Diddordeb cysylltiedig arall yw datblygiad tafodieithoedd Cymraeg newydd yng Nghymru a rôl y system addysg yn eu ffurfiant.

Publication

2024

2023

2022

2021

2020

  • Morris, J., Rees, I. W. and Prys, M. 2020. Amrywio. In: Cooper, S. and Arman, L. eds. Cyflwyniad i Ieithyddiaeth. Caerfyrddin: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, pp. 139-180.

2019

2018

2017

2016

2015

2013

2012

2011

2010

Articles

Book sections

Books

Thesis

Websites

Research

Datblygiadau tafodieithol yng Nghymraeg y Wladfa ym Mhatagonia

Ar sail gwaith maes cychwynnol (o dan nawdd banc Santander a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) mewn dwy ardal ym Mhatagonia, sef Dyffryn Camwy a Godre’r Andes, rwyf wrthi’n gweithio ar brosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau tafodieithol (hanesyddol a chyfredol) yng Nghymraeg y Wladfa.

Un o brif amcanion y prosiect hwn yw sefydlu sut yn union yr ymffurfiodd tafodiaith newydd yn y Wladfa o ganlyniad i gyffyrddiad rhwng gwahanol amrywiadau tafodieithol o Gymru a, thrwy hynny, herio rhai dadansoddiadau blaenorol o ffurfiant amrywiadau trefedigaethol eraill ar draws y byd. Amcan arall yw archwilio rhai o ganlyniadau cyffyrddiad ieithoedd, h.y. dylanwad y Sbaeneg ar y Gymraeg, gan ystyried goblygiadau’r newidiadau a welir ar waith heddiw rhwng gwahanol genedlaethau o siaradwyr i ddulliau ac adnoddau dysgu Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Nhalaith Chubut.

Cyflwyno tafodieithoedd y Gymraeg i actorion a sgriptwyr

Yn sgil ennill grant oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rwyf wedi creu adnodd sydd â’r nod o gyflwyno tafodieithoedd y Gymraeg i actorion a sgriptwyr yn bennaf. Mae Cyflwyno Tafodieithoedd y Gymraeg: Canllawiau i Actorion a Sgriptwyr yn cynnwys nifer o glipiau sain a chlyweledol (ar Lwyfan Adnoddau’r Coleg Cymraeg), ynghyd â chanllawiau manwl, a fydd yn galluogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, nid yn unig i ymgyfarwyddo ag amrywiadau tafodieithol hen a newydd, ond i’w defnyddio yn ymarferol. Mae’r adnodd hwn wedi arwain at wahoddiadau i gydweithio ag ystod eang o gyrff allanol ar amryfal brosiectau, e.e. Theatr Genedlaethol Cymru, BBC Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ogystal â sawl awdur ffuglen adnabyddus. Bûm hefyd yn cynnal sawl dosbarth meistr i actorion ar y cyd â’r hyfforddwraig a’r actores brofiadol Rhian Morgan.

Caffael y Gymraeg fel ail iaith

Yn sgil arwain prosiect ar gaffael y Gymraeg fel ail iaith, cyhoeddais erthygl yn ddiweddar (ar y cyd â Dr Jonathan Morris) ar safbwyntiau tiwtoriaid ar anawsterau ynganu dysgwyr yn y sector Cymraeg i Oedolion. Mae nifer o argymhellion yr erthygl hon wrthi’n cael eu rhoi ar waith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd.

Teaching

BA Cymraeg

    • CY1600 Iaith ac Ystyr (Arweinydd)
    • CY1602 Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
    • CY2450/CY3450 Tafodieitheg (Arweinydd)
    • CY3750 Cyfieithu Proffesiynol (Arweinydd)
    • CY2700/CY3700 Sgriptio
    • CY3900 Blas ar Ymchwil
    • CY3905 Ymchwilio Estynedig

MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

    • CYD400 Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol
    • CYD401 Pwnc Arbennig 1
    • CYD402 Pwnc Arbennig 2
    • CYD403 Prosiect Ymchwil Estynedig

Biography

Professional memberships

    • Aelod o fwrdd Cynllun yr Iaith Gymraeg (Talaith Chubut) British Council Cymru
    • Aelod o Fforwm Prosiect Ynganu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
    • Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch

    Gwasanaeth presennol i'r Ysgol

    • Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America
    • Cadeirydd y Bwrdd Arholi a Swyddog Cwynion
    • Cyfarwyddwr Derbyn a Recriwtio
    • Swyddog Llyfrgell