Trosolwyg
Rwy’n gyfrifol am oruchwylio gweinyddiaeth yr Ysgol i sicrhau bod swyddogaethau academaidd yn cael eu cefnogi’n effeithiol. Mae'r rôl yn cynnwys cyfrannu at gynllunio a datblygiad strategol, rheoli cyllid a chynllunio ariannol yr Ysgol, arwain y tîm gwasanaethau proffesiynol, rheoli prosesau adnoddau dynol, a sicrhau bod yr Ysgol yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol y Brifysgol.
Rwyf hefyd yn gyfrifol am strwythur llywodraethu’r Ysgol, iechyd a diogelwch, a gwasanaethau myfyrwyr. Rwy’n aelod o Fwrdd yr Ysgol ac yn aelod o Fwrdd Gweithrediadau Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol.
Bywgraffiad
Yn wreiddiol o Ynys Môn, dechreuais fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2009 fel myfyrwraig israddedig. Graddiais mewn Cymraeg a Hanes yn 2012 cyn cwblhau MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yma yn Ysgol y Gymraeg.
Bum yn gweithio yn Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol am gyfnod cyn symud i Ysgol y Gymraeg fel y Swyddog Cefnogaeth Academaidd ym mis Mawrth 2015. Rhwng Tachwedd 2019 ac Ebrill 2020, bum ar secondiad yn yr Ysgol fel Cydlynydd Prosiect Cenedlaethol y Cynllun Mentora Myfyrwyr y Gymraeg a arianwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhwng Tachwedd 2020 a Rhagfyr 2024 roeddwn yn Reolwr Academaidd i'r Ysgol cyn dechrau ar fy swydd bresennol fel Rheolwr yr Ysgol.
Anrhydeddau a dyfarniadau
Yn 2020 cefais fy enwebu gan fyfyrwyr ar gyfer gwobr Aelod o Staff Mwyaf Ysbrydoledig yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr. Yn 2023 cyrhaeddais rhestr fer y categori Aelod o staff Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn yn yr un Gwobrau.
Aelodaethau proffesiynol
Aelod Achrededig o Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Addysg Uwch (AHEP)
Contact Details
+44 29208 70637
Adeilad John Percival , Ystafell 1.55, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU