Ewch i’r prif gynnwys
Jordan Van Godwin

Mr Jordan Van Godwin

(e/fe)

Cynorthwy-ydd Ymchwil, DECIPHer

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Trosolwyg

Rwy'n Ymchwilydd Ansoddol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer).

Wrth orffen fy Meistr mewn Cymdeithaseg Gymhwysol ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gweithiais fel Swyddog Polisi ar gyfer Swyddfa'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (OPCC) yn Nyfed Powys. Dechreuais weithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014 fel cynorthwyydd ymchwil i Ganolfan Ymchwil Lliniarol Marie Curie (MCPCRC) yn yr Ysgol Meddygaeth. Yn 2016 symudais i DECIPHer gan weithio i ddechrau ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar weithgarwch corfforol plant ac addysg y glasoed o ran defnyddio alcohol. Yn ystod fy nghyfnod yn DECIPHer rwyf wedi gweithio ar draws nifer o wahanol feysydd ym maes iechyd y cyhoedd. Mae fy mhrosiectau presennol yn canolbwyntio ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd, iechyd a lles yn y gweithle a'r defnydd o wyddor ymddygiad wrth ddatblygu ymyriadau iechyd cyhoeddus.

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

Articles

Conferences

Monographs

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn eang ac yn ystod fy nghyfnod yn DECIPHer rwyf wedi gweithio ar draws nifer o wahanol feysydd, yn bennaf fel ymchwilydd ansoddol. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn ymyriadau mewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedol ar gyfer hybu a gwella iechyd, gyda ffocws penodol ar iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, rwyf hefyd yn ymwneud yn helaeth ag ymchwil ar e-sigaréts/anweddu yn ogystal â gweithgarwch corfforol.    Rwyf hefyd wedi datblygu profiad a diddordeb mewn ymchwil ar 'newyn gwyliau' ac amddifadedd bwyd/tlodi.

Mae fy mhrofiad yn bennaf mewn ymchwil ansoddol ar werthusiadau o ymyriadau a pholisïau iechyd cyhoeddus cymhleth gan gynnwys dulliau gwerthuso prosesau a dulliau cydweithredol a rhyngddisgyblaethol o ddylunio ymyrraeth gyda rhanddeiliaid allweddol.

Bywgraffiad

Trosolwg Gyrfa

2021-presennol: Cydymaith Ymchwil, DECIPHer & Y Lab, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

2016-2021: Cynorthwy-ydd Ymchwil, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

2014-2016: Cynorthwy-ydd Ymchwil, MCPCRC, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

2013-2014: Swyddog Polisi, Swyddog ar gyfer Commisioner Heddlu a Throseddu Dyfed Powys.

Trosolwg Addysg

2013-2014: MA Cymdeithaseg a Philsophy Chwaraeon, Rhagoriaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

2009-2012: BSc Gwyddor Chwaraeon, 2:1, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Contact Details

Email VanGodwinJ1@caerdydd.ac.uk
Telephone +44 29225 10091
Campuses sbarc|spark, Ystafell Room 1.13, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ