Skip to main content
Huw Pritchard

Mr Huw Pritchard

Lecturer in Law

School of Law and Politics

Email
PritchardH3@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 29208 74355
Campuses
8-10 North Road, Room 10/1.07, Cathays, Cardiff, CF10 3DY
cymraeg
Welsh speaking
Comment
Media commentator
Users
Available for postgraduate supervision

Overview

Ymunodd Huw â Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Medi 2015 fel darlithydd mewn cyfraith a llywodraethiant ddatganoledig. Ei brif feysydd o ddiddordeb yw datganoli yng Nghymru a’r DG a datganoli cyfiawnder. Mae hefyd ganddo ddiddordeb mewn cyfraith gyfansoddiadol, cyfiawnder gweinyddol, ac effaith datganoli ar gyfraith iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n aelod o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae'n aelod o Banel Academaidd y Cyngor ar Gyfiawnder Gweinyddol ers 2018. Mae’n ysgrifennydd cymdeithas Cyfraith Gyhoeddus Cymru. Mae Huw hefyd yn aelod o Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd.

Mae Huw yn aelod o Fwrdd y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol ac yn rhan o dim trefnu cynhadledd flynyddol y gymdeithas yng Nghaerdydd yn 2021.

Mae Huw yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac yn un o ddarlithiwr cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Publication

2023

2021

2020

2019

2018

2017

  • Pritchard, H. 2017. The Ongoing Devolution Processes in the United Kingdom. In: Calmes-Brunet, S. and Sagar, A. eds. Federalism, Decentralisation and European Regionalisation. Comparative Perspectives., Vol. XVII. Collection L'Unite du Droit Toulouse & Rouen: Editions l'Epitoge

2016

Articles

Book sections

  • Pritchard, H. 2017. The Ongoing Devolution Processes in the United Kingdom. In: Calmes-Brunet, S. and Sagar, A. eds. Federalism, Decentralisation and European Regionalisation. Comparative Perspectives., Vol. XVII. Collection L'Unite du Droit Toulouse & Rouen: Editions l'Epitoge

Monographs

Research

Mae fy ymchwil ddiweddar wedi bod ar gyfiawnder yng Nghymru a sut mae cyfiawnder yn cael ei reoli o fewn un awdurdodaeth gyfreithiol sydd â dwy ddeddfwrfa a llywodraeth. Er bod cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl i raddau helaeth, mae agweddau ar gyfiawnder yn croestorri’r rhestr cymwyseddau sydd wedi eu cadw'n ôl. Gellir gweld hyn yn amlwg trwy gyfiawnder gweinyddol lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau am fathau o gawl iawn gweinyddol fel tribiwnlysoedd datganoledig, Comisiynwyr Cymreig a'r Ombwdsmon.

Rwyf wedi bod yn rhan o'r prosiectau canlynol fel cyd-ymchwiliwr sy'n archwilio goblygiadau'r rhaniad hwn:

Cyd-ymchwilydd

Llwybrau at Gyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru (Medi 2019 - Mai 2020) [Sefydliad Nuffield]

Cyfiawnder ac Awdurdodaeth (2018-2020) [ESRC]

Teaching

Huw yw cydlynydd y rhaglen LLM Llywodraethiant a Datganoli ac mae'n arwain y modiwlau canlynol: 

  • Constitutionalism and Governance
  • Law of Devolution in Wales

Ar lefel is-raddedig, mae Huw yn arwain y modiwlau hyn: At undergraduate level, Huw teaches on the following modules:

  • Datganoli yng Nghymru
  • Cyfraith Gyhoeddus

Mae'n darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ac yn aelod o Banwl y Gyfraith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Biography

Cwblhaodd Huw ei PhD yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, yn 2015. Canolbwyntiodd yr ymchwil hwn ar dribiwnlysoedd gweinyddol yng Nghymru a’u harwyddocâd ar gyfer datganoli swyddogaethau dros gyfiawnder i Gymru. Cafodd ei ymchwil ei gyllido yn llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyn hynny, cwblhaodd LLM mewn Cyfraith a Llywodraeth Ddatganoledig o Ysgol y Gyfraith Bangor (2009) ac LLB yn y Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd (2008).

Professional memberships

  • Aelod o'r UK Constitutional Law Association
  • Aelod o'r Society of Legal Scholars

Academic positions

2012-15: Darlithydd rhan-amser, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor

Committees and reviewing

  • Ysgrifennydd, Cyfraith Gyhoeddus Cymru
  • Aelod o Banel y Gyfraith, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Aelod o Banel Academaidd, Administrative Justice Council
  • Lexis Nexis, Arbenigwyr Cyfraith Gyhoeddus (Panel Gymreig)

Supervisions

Current supervision

Phil Thompson

Phil Thompson

Research student