Ewch i’r prif gynnwys
David Callander

Dr David Callander

cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Timau a rolau for David Callander

  • Uwch Ddarlithydd

    Ysgol y Dyniaethau Byd-eang

Trosolwg

Rwy’n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a barddoniaeth gynnar Gymraeg yn enwedig. Mae fy ymchwil yn gymharol ac yn ceisio edrych ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o ddod â thraddodiadau llenyddol tra gwahanol ynghyd, gan gymharu testunau Cymraeg Canol, Hen Saesneg, Saesneg Canol, a Lladin canoloesol â'i gilydd. Mae gennyf ddiddordeb hefyd i gymharu’r modern a’r canoloesol, a hynny mewn sawl ffordd. Rwy’n astudio fel y mae theori lenyddol fodern yn gallu cyfoethogi ein dealltwriaeth o lenyddiaeth ganoloesol ond hefyd y ffordd mae’r llenyddiaeth ganoloesol ei hun yn gallu herio a chyfrannu at theori lenyddol gyfoes. Mae darllenwyr diweddarach o lenyddiaeth ganoloesol wedi mynd â’m sylw i hefyd, yn enwedig ysgrifenwyr y cyfnod modern cynnar a gopïai lenyddiaeth ganoloesol a’i thrawsffurfio at eu dibenion eu hunain. Dyma oedd canolbwynt fy llyfr diweddaraf Trawsffurfio'r Seintiau, sy'n seiliedig ar antholeg hagiograffaidd dairieithog, sef Yale, Osborn fb229, a enillodd Wobr Goffa Vernam Hull.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar brosiect i olygu ac astudio'r cerddi Cymraeg a briodolir i Fyrddin.

Cyhoeddiad

2026

2025

2024

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

Adrannau llyfrau

Erthyglau

Gwefannau

Llyfrau

Monograffau

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
  • Llenyddiaeth Hen Saesneg a Saesneg Canol (y farddoniaeth yn enwedig)
  • Llenyddiaeth Arthuraidd
  • Llenyddiaeth gymharol mewn cyd-destun canoloesol
  • Theori naratif a theori barddoniaeth
  • Testunau Lladin o Gymru (bucheddau’r saint yn enwedig)
  • Golygu testunau canoloesol (barddoniaeth yn enwedig)
  • Derbyniad llenyddiaeth ganoloesol mewn cyfnodau diweddarach

Rwy’n croesawu ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr ôl-raddedig sydd â diddordeb yn y meysydd hyn.

Rwyf hefyd yn Gyd-Ymchwilydd ar brosiect AHRC mawr ar farddoniaeth Myrddin (gwerth y grant: £716,013 https://gtr.ukri.org/projects?ref=AH%2FW000717%2F1).

Addysgu

Rwy'n dysgu'n eang ym maes y Gymraeg a thu hwnt ac yn cyfrannu at neu wedi cyfrannu at y modiwlau canlynol:

BA Cymraeg

  • Herio’r Traddodiad Llenyddol
  • Myrddin a Merlin
  • Dafydd ap Gwilym
  • Trafod ein Llên
  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Y Gymraeg Heddiw
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
  • Modern Welsh Literature
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Ymchwilio Proffesiynol
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig
  • Ymchwilio Proffesiynol Estynedig

MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

  • Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol
  • Archwilio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
  • Pwnc Arbenigol
  • Prosiect Ymchwil Estynedig

Bywgraffiad

Swyddi Academaidd

  • Awst 2026 - heddiw: Darllenydd, Prifysgol Caerdydd
  • Awst 2022 - Gorffennaf 2026: Uwch-ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd
  • Hydref 2019 - Gorffennaf 2022: Darlithydd, Prifysgol Caerdydd
  • Hydref 2018 - Medi 2019: Cymrawd Ymchwil Iau, Coleg y Santes Catrin, Caergrawnt
  • Hydref 2017 - Medi 2018: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Vitae Sanctorum Cambriae, Caergrawnt

Rolau ar Ymweliad

  • Ionawr a Haf 2026: Cyfnodau ymweld â Phrifysgol Rennes 2 a Phrifysgol Gorllewin Llydaw dan nawdd Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis
  • Tymor Ilar, 2025: Cymrawd ar Ymweliad Tymor Byr, Coleg yr Iesu, Rhydychen
  • Mai - Mehefin 2024: Ysgolhaig ar Ymweliad, Philipps-Universität Marburg
  • Chwefror - Ebrill 2024: Ysgolhaig Cysylltiedig mewn Astudiaethau Canoloesol, Prifysgol Harvard

Addysg a Chymwysterau

  • 2019 Tystysgrif Uwchraddedig Dysgu mewn Addysg Uwch, Prifysgol Caergrawnt
  • 2017 PhD, ASNC, Prifysgol Caergrawnt
  • 2015-16 Ysgoloriaeth Astudio Tramor yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, Eberhard Karls Universität Tübingen
  • 2013 MPhil, ASNC, Prifysgol Caergrawnt
  • 2012 BA, Saesneg, Prifysgol Rhydychen

Anrhydeddau a dyfarniadau

Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis 2025-6
Artist Preswyl Ynys Enlli, Awst 2025
Gwobr Goffa Vernam Hull am fy monograff Trawsffurfio'r Seintiau (Gwasg Prifysgol Cymru, 2024)

Aelodaethau proffesiynol

Cymrawd o'r Gymdeithas Hanes Frenhinol
Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch
Aelod o brosiect Academi Brydeinig 'Datblygiad yr Iaith Gymraeg'
Darlithydd cysylltiol, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Safleoedd academaidd blaenorol

Art

Pwyllgorau ac adolygu

Cyd-olygydd Llên Cymru
Golygydd adolygiadau, Studia Celtica
Aelod o Fwrdd Golygyddol Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium

Meysydd goruchwyliaeth

Goruchwyliaeth gyfredol

News articles

Dr David Callander yw un o enillwyr Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis eleni.

Darlithydd yn ennill ysgoloriaeth i barhau â’i waith ar Myrddin

15 September 2025

Dr David Callander yw un o enillwyr Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis eleni.

Mae’r farddoniaeth hysbys gynharaf am y cymeriad, a adnabyddir fel Myrddin yn Gymraeg, bellach yn hygyrch i bawb

Darganfod gwreiddiau go iawn Myrddin

25 February 2025

Mae’r farddoniaeth hysbys gynharaf am y cymeriad, a adnabyddir fel Myrddin yn Gymraeg, bellach yn hygyrch i bawb

Mae un o uwch-ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi lansio ei lyfr newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Lansio llyfr uwch-ddarlithydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol

19 August 2024

Mae un o uwch-ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi lansio ei lyfr newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Bydd y digwyddiadau’n archwilio pynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes

Effaith ymchwil ac addysgu yn cael ei harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol

28 July 2022

Bydd y digwyddiadau’n archwilio pynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes

Bydd prosiect newydd yn cyflwyno casgliad digidol a hygyrch o gerddi Myrddin wedi eu golygu a’u cyfieithu ar gyfer ysgolheigion, selogion Arthuraidd a’r sectorau treftadaeth, addysg a chreadigol ehangach

Datgelu Myrddin y Cymry

24 November 2021

Bydd prosiect newydd yn cyflwyno casgliad digidol a hygyrch o gerddi Myrddin wedi eu golygu a’u cyfieithu ar gyfer ysgolheigion, selogion Arthuraidd a’r sectorau treftadaeth, addysg a chreadigol ehangach

Croesawu dau ddarlithydd newydd i gymuned yr Ysgol

Croesawu dau ddarlithydd newydd i gymuned yr Ysgol

12 November 2019

Croesawu dau ddarlithydd newydd i gymuned yr Ysgol

Contact Details

Email [email protected]
Telephone +44 29225 11714
Campuses Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 1.73, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU