Ewch i’r prif gynnwys
Jonathan Morris  BA, MA, PhD, FHEA

Dr Jonathan Morris

(e/fe)

BA, MA, PhD, FHEA

cymraeg
Siarad Cymraeg

Timau a rolau for Jonathan Morris

Trosolwyg

Rwy’n Gyfarwyddwr Ymchwil ac yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gymraeg. Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar sosioieithyddiaeth dwyieithrwydd, yn enwedig yng nghyd-destun dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg.

Rwy'n ymchwilio i ddylanwad ffactorau ieithyddol, seicolegol a chymdeithasol ar gaffael iaith a'i chynhyrchu, defnyddio iaith, ac agweddau tuag at iaith. Rwy'n trafod goblygiadau fy nghanfyddiadau i faes addysg, polisi iaith, a chynwysoldeb mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol.

Mae fy mhroffil ymchwil yn cynnwys pedair prif thema:

1. Amrywio iaith a newid mewn lleferydd pobl ddwyieithog.

2. Defnydd iaith ac agweddau siaradwyr traddodiadol a newydd tuag at eu hieithoedd.

3. Caffael ail iaith mewn cyd-destunau addysgiadol a dysgu oedolion.

4. Hunaniaethau sy'n croestorri a chynhwysiant mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol, yn enwedig siaradwyr Cymraeg LHDTC+.

Rwyf wedi cyfrannu at greu adnoddau digidol Cymraeg, yn enwedig y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes a phrosiectau sy’n deillio o’r gwaith hwn. Rwyf hefyd wedi gweithio ar adnoddau digidol ar gyfer caffael iaith megis profion darllen a sillafu safonol i ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gwefan ynganu Gwylio Dy Dafod, ac adnodd asesu ffurfiannol ar gyfer gramadeg Cymraeg.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn datblygiad ymchwilwyr a diwylliant ymchwil cadarnhaol. Ar hyn o bryd, fi yw'r Partner Academaidd ar Brosiect Cynnau|Ignite y Brifysgol gyda chyfrifoldeb am ddatblygu'r rhaglen ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. Mae Cynnau|Ignite yn datblygu ystod o weithgareddau datblygu arweinyddiaeth, gyda'r bwriad o ysgogi newid sefydliadol ehangach mewn diwylliant ymchwil. Ariennir y prosiect hwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Mae fy mhortffolio addysgu yn cynnwys modiwlau ar yr iaith Gymraeg, sosioieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dwyieithrwydd. Mae fy ngwaith addysgu yn cael ei lywio gan ymchwil ac yn blaenoriaethu gwybodaeth am y cyd-destunau ymchwil Cymreig a rhyngwladol yn ogystal â dealltwriaeth o nifer o ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol a ddefnyddir mewn ieithyddiaeth a'r gwyddorau cymdeithasol yn ehangach. Mae fy agwedd at ddylunio addysg yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol trwy weithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr wrth anelu at greu awyrgylch cynhwysol sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth a'i chymhwyso mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy.

Diddordebau ymchwil

  • Sosioieithyddiaeth
  • Amrywio Iaith a Newid
  • Cymdeithaseg Iaith
  • Dwyieithrwydd
  • Caffael Ail Iaith
  • Seineg a ffonoleg

Cyhoeddiad

2025

2024

2023

2022

2021

2020

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2010

  • Morris, J. 2010. Phonetic variation in Northern Wales: preaspiration. Presented at: Second Summer School of Sociolinguistics, Edinburgh, Scotland, 14-20 June 2010 Presented at Meyerhoff, M. et al. eds.Proceedings of the Second Summer School of Sociolinguistics, The University of Edinburgh. Edinburgh: University of Edinburgh pp. 1-16.

Articles

Book sections

Books

Conferences

Monographs

Thesis

Websites

Ymchwil

Themâu Ymchwil

Amrywio iaith a newid yn lleferydd pobl ddwyieithog

Nod fy ymchwil yn y maes hwn yw archwilio i ba raddau y mae ffactorau ieithyddol a chymdeithasol (fel rhywedd, cymuned, ac iaith yr aelwyd) yn dylanwadu ar amrywio iaith yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae’r gwaith yn cymhwyso theori ym maes sosioieithyddiaeth at ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith ac yn cymharu sut mae siaradwyr yn cynhyrchu eu dwy iaith. Gall hyn daflu goleuni ar sut mae nodweddion o un iaith yn cael eu trosglwyddo i'r iaith arall a pha ffactorau sy'n dylanwadu ar drosglwyddo ar draws ieithoedd ymhlith unigolion dwyieithog.

Mae fy ngwaith ar amrywio ffonolegol a seinegol yn y repertoire dwyieithog wedi ymddangos mewn cyfnodolion fel y Journal of Sociolinguistics, International Journal of Bilingualism a Frontiers in Psychology yn ogystal â'r gyfrol Sociolinguistics in Wales (gyda Mercedes Durham). Golygais hefyd rifyn arbennig o gyfrol Languages ar y pwnc hwn, o'r enw 'Social and Psychological Factors in Bilingual Speech Production' (gyda Robert Mayr). Mae’r gyfrol hon yn cynnwys cyfraniadau gan ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw ac yn canolbwyntio ar gymunedau dwyieithog yn Ewrop, y Dwyrain Canol, a Gogledd a De America.

Rwyf wedi cyfrannu at geisiadau llwyddiannus am ysgoloriaethau PhD yn y maes hwn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yr ESRC, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac sydd wedi arwain at waith pellach ar amrywio ieithyddol yn y Gymraeg gyfoes (Ianto Gruffydd) a chaffael cymhwysedd sosioieithyddol ymhlith disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg (Katharine Young).

Yn ogystal ag edrych ar sut y cynhyrchir lleferydd, agwedd bwysig ar waith yn y maes hwn yw sut mae pobl yn canfod acenion siaradwyr dwyieithog a'u gwerthuso. Ynghyd â Robert Mayr, rwyf wedi archwilio i ba raddau y mae pobl yn gallu canfod a yw rhywun yn siarad Cymraeg drwy wrando ar eu Saesneg (sy’n rhoi arwydd o drosglwyddo trawsieithyddol). Rydym hefyd wedi archwilio gwerthusiadau cymdeithasol o acenion Cymraeg i ddarganfod sut mae rhai nodweddion ffonolegol (ac yn enwedig nodweddion anhraddodiadol neu rai o du'r Saesneg) yn cael eu gwerthuso gan y gymuned ehangach o siaradwyr Cymraeg.

Rwy’n gobeithio taflu goleuni ar rôl ffactorau arddulliadol, cyd-destunol, a sgyrsiol ar drosglwyddo yn lleferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg. Gan ddefnyddio hunanrecordiadau gan siaradwyr, cwblheais astudiaeth gychwynnol o’r defnydd o gyfnewid cod ymhlith siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol (a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Rwyf ar hyn o bryd yn ehangu ar y gwaith hwn i gynnwys mwy o siaradwyr a nodweddion ieithyddol.

Defnydd iaith ac agweddau siaradwyr traddodiadol a newydd

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn arferion ieithyddol siaradwyr Cymraeg ac yn enwedig y rhai sydd wedi caffael yr iaith y tu allan i'r cartref. Roedd fy ngwaith cynnar yn y maes hwn yn ymchwilio i agweddau tuag at y Gymraeg a'r defnydd ohoni ymhlith pobl ifanc mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Roeddwn yn gyd-ymchwilydd ar brosiect ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd yn y cartref. Defnyddiodd y prosiect hwn ddulliau meintiol yn seiliedig ar Theori Ymddygiad Wedi’i Gynllunio (TPB) er mwyn canfod i ba raddau mae nodweddion personoliaeth yn dylanwadu ar y defnydd o iaith rhwng rhieni a phlant. Cwblhawyd hefyd ddadansoddiad thematig o ddata ansoddol i ddadansoddi'r profiadau cyffredin o fagu plant yn y Gymraeg. Yn dilyn hynny, bûm yn cyd-oruchwylio traethawd PhD a oedd yn edrych ar y profiad o fagu plant yn amlieithog trwy ganolbwyntio ar deuluoedd yng Nghaerdydd a Helsinki ( Kaisa Pankakoski).

Caffael ail iaith mewn cyd-destunau addysgol a dysgu oedolion

Cyhoeddais erthygl ar agweddau tiwtoriaid Cymraeg i oedolion tuag at leferydd dysgwyr (gydag Iwan Wyn Rees), ac rwyf hefyd wedi archwilio sut mae dysgwyr yn cynhyrchu'r Gymraeg. Rwyf hefyd wedi goruchwylio ymchwil ôl-raddedig i gynhyrchu nodweddion uwchsegmentaidd ymhlith dysgwyr Cymraeg o gefndiroedd gwahanol ( Jack Pulman-Slater)

Arweiniodd ein hymchwil ar leferydd dysgwyr at brosiect Gwylia Dy Dafod sy’n defnyddio technoleg MRI i helpu dysgwyr gydag ynganu ( gyda Leandro Beltrachini, Mara Cercignani, Iwan Wyn Rees, Andreas Papageorgiou, ac Ivor Simpson) . Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect yma.

Yn fwy cyffredinol, mae gennyf ddiddordeb yn nylanwad ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar gaffael ail iaith ymhlith plant ac oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg. Rwyf wedi cyhoeddi ar y rhesymau dros ddysgu Cymraeg ymhlith dysgwyr rhyngwladol yn ogystal â rôl nodweddion personoliaeth ar gymhellion dysgwyr (gyda Charlotte Brookfield).

Hunaniaethau croestorri a chynhwysiant mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol, yn enwedig siaradwyr Cymraeg LHDTC+

Mae nifer cynyddol o astudiaethau yn canolbwyntio ar bobl LHDTC+ er mwyn canfod sut mae hunaniaethau LHDTC+ yn croestorri ag agweddau eraill ar hunaniaethau cymdeithasol, megis hunaniaethau cenedlaethol ac ethnig. Mae fy ymchwil (gyda Sam Parker) yn archwilio’r croestoriad rhwng hunaniaethau ieithyddol a diwylliannol lleiafrifol a hunaniaethau LHDTC+ ac yn canolbwyntio ar brofiadau siaradwyr Cymraeg LHDTC+.

Mae’r prosiect hwn yn dod â dadansoddiadau thematig, disgwrs ac ieithyddol at ei gilydd i archwilio (1) i ba raddau y mae croestoriad rhwng gwahanol agweddau ar hunaniaeth siaradwyr Cymraeg LHDTC+ a sut y dylanwadodd hyn ar eu profiadau o berthyn, (2) sut maent yn sôn am eu haelodaeth o’r cymunedau LHDTC+ a Chymraeg a (3) sut maent yn cyfleu safiad tuag at eu hunaniaeth wrth sgwrsio.

Mae canlyniadau’r prosiect hwn wedi’u cyhoeddi yn y gyfrol Queering Language Revitalisation: Navigating Identity and Inclusion among Queer Speakers of Minority Languages (Cambridge University Press) ac yn cynnwys astudiaethau achos o’r Wyddeleg, Llydaweg, Catalaneg, a'r Gymraeg (gyda John Walsh, Michael Hornsby, Eva J. Daussà, Renée Pera-Ros, a Holy Cashman).

Adnoddau a seilwaith digidol

Rwyf wedi cyfrannu at nifer o brosiectau sydd wedi creu adnoddau digidol Cymraeg. Mae llawer o'r gwaith hwn yn deillio o'r Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (dan arweiniad Dawn Knight), a ariannwyd gan yr AHRC a’r ESRC, a phrosiectau dilynol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru:

Ariannwyd gan Wasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De, arweiniais ar ddau brosiect i greu prawf darllen safonedig a phrawf sillafu safonedig i ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg (gyda Rosanna Stenner, Geraint Palmer, a Dylan Foster Evans). Mae'r profion hyn yn darparu offeryn diagnostig hwylus i ymarferwyr ar cywirdeb darllen a sillafu ac yn eu galluogi i olrhain cynnydd dysgwyr dros amser.

Prosiectau Cyfredol

Addysgu

Addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd

Rwy'n addysgu (neu wedi addysgu) modiwlau ar yr iaith Gymraeg ac ieithyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sgiliau Llafar yn y Gymraeg
  • Defnyddio'r Gymraeg
  • Cyflwyniad i'r Gymraeg
  • Diwylliant y Gymraeg
  • Yr Ystafell Ddosbarth

Rwyf wedi bod yn arweinydd modiwl ar y modiwlau canlynol:

  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
  • Cymraeg y Gweithle a'r Gymuned
  • Yr Iaith Ar Waith
  • Sosioieithyddiaeth
  • Caffael Iaith
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Rwyf hefyd yn addysgu ar yr MA mewn Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd ac yn cyflwyno hyfforddiant i fyfyrwyr PhD ar ddadansoddi data mewn ieithyddiaeth.

Addysgu blaenorol ym maes y Saesneg ac Ieithyddiaeth

Rwyf wedi addysgu ar y modiwlau canlynol mewn iaith ac ieithyddiaeth Saesneg:

  • Cyflwyniad i Ffonoleg
  • Dadansoddi Disgwrs
  • Amlieithrwydd Cymdeithasol
  • Tafodieithoedd y Saesneg

Addysgu blaenorol ym maes Cymraeg ail iaith

Rwyf wedi addysgu ar y cyrsiau canlynol ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg:

  • Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg
  • Y Gymraeg yn y Gweithle (Addysg Bellach)
  • TGAU Cymraeg Ail Iaith (Addysg Bellach)
  • Cymraeg i Oedolion

Bywgraffiad

Cwblheais BA mewn Astudiaethau Ffrangeg ac Almaeneg, MA mewn Ieithoedd ac Ieithyddiaeth, a PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Yn ystod fy nghyfnod ym Manceinion, treuliais amser ym Mhrifysgol Bourgogne (Dijon, Ffrainc) a Phrifysgol Basel (y Swistir). Roedd fy ngwaith cynnar yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng iaith ac hunaniaeth yn y gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Dechreuais weithio ar sosioieithyddiaeth a seineg (sosioseineg) yng nghyd-destun y Gymraeg yn ystod fy ngradd Meistr ac mae fy PhD yn archwilio dylanwad ffactorau ieithyddol a chymdeithasol ar leferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg.

Ymunais ag Ysgol y Gymraeg fel Cynorthwyydd Ymchwil yn 2012. Cyn symud i Gaerdydd, gweithiais fel Cynorthwyydd Dysgu ym Mhrifysgol Manceinion ac fel Darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Rwyf hefyd wedi gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil ar brosiectau a ariennir gan yr ESRC a'r Academi Brydeinig.

Rhwng Medi 2014 ac Awst 2019, fi oedd Darlithydd Ieithyddiaeth ac Ieithyddiaeth Gymhwysol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg. Ers hynny, rwyf wedi bod yn Uwch-ddarlithydd ac yn Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a'r Gymraeg.

Anrhydeddau a dyfarniadau

  • Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer categori 'Arloesi'n Gyffredinol ar draws y Ffiniau', Gwobrau Darlithwyr Cyswllt y Coleg Cymraeg Cenedlaethol , 2019.
  • Rhestr fer Gwobr Aelod Staff Mwyaf Arloesol, Prifysgol Caerdydd, 2016.

Aelodaethau proffesiynol

  • Cymdeithas Ieithyddion Cymhwysol Prydain
  • Cymdeithas Brydeinig y Ffonetegwyr Academaidd

Adran a Gwasanaeth y Brifysgol

  • Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol y Gymraeg (2022+)
  • Partner Academaidd, Prosiect Cynnau (2024-2026)
  • Cyd-drefnydd y Rhwydwaith Ymchwil Amlieithrwydd (2019-2023)
  • Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig, Ysgol y Gymraeg (2017-2022)
  • Cadeirydd, Cangen Prifysgol Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2018-2020)
  • Swyddog Moeseg Ymchwil, Ysgol y Gymraeg (2014-2017)
  • Cyd-drefnydd y Grŵp Darllen Sosioieithyddiaeth (2013-2019)

Contact Details

Email MorrisJ17@caerdydd.ac.uk
Telephone +44 29208 75394
Campuses Adeilad John Percival , Ystafell 1.74, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Arbenigeddau

  • Seineg
  • Sosioieithyddiaeth
  • Dwyieithrwydd
  • Caffael Ail Iaith